Dylech sefyll i fod yn swyddog rhan amser os ydych yn frwd am un o'r rolau ac os oes gennych lawer o syniadau ynglŷn â sut gallwch ennyn diddordeb myfyrwyr, ymgyrchu dros newid neu wella bywyd myfyrwyr.
Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, sy'n bodoli i sicrhau bod prosesau llunio penderfyniadau’r UM yn cynrychioli ein myfyrwyr ac i helpu i greu diwylliant bywiog a gweithredol ar y campws.
Mae gan bob un o'n campysau yn Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin, Gyngor Campws, sy'n cynnwys eu Swyddogion Rhan-amser. Mae Cyngor y Campws yn cwrdd unwaith y mis yn ystod y tymor i drafod a gweithredu syniadau myfyrwyr.
Mae pob un o'r tri Chyngor Campws yn cynnig y swyddi canlynol ar gyfer etholiad:
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau menywod, hyrwyddo materion menywod a chynnig cymorth i fyfyrwragedd. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i chi hunan-ddiffinio fel dynes.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr croenddu, hyrwyddo materion myfyrwyr croenddu a chynnig cymorth i fyfyrwyr croenddu. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i chi hunan-ddiffinio fel rhywun o dras Affricanaidd, Asiaidd, Arabaidd neu Garibïaidd.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr anabl, hyrwyddo materion perthnasol a chynnig cymorth i fyfyrwyr anabl. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i chi hunan-ddiffinio fel rhywun anabl. Mae hyn yn cynnwys anabledd corfforol, unrhyw gyflwr iechyd meddwl, salwch cronig, anableddau synhwyraidd, amrywiaethau niwrolegol ac anawsterau / anableddau dysgu.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio o fewn ymbarél LHDT+.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio fel dynes.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Traws, hyrwyddo materion Traws a chynnig cymorth i fyfyrwyr Traws. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio fel Traws.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hyrwyddo'r defnydd cynyddol o'r Gymraeg; hefyd codi materion a rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod yn medru siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Rhyngwladol, gan geisio gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod yn fyfyriwr o wlad sydd ddim yn rhan o’r UE.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Ôl-raddedig, gan geisio gwella'r profiad ôl-raddedig ac adeiladu rhwydwaith ôl-raddedig gweithgar.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Hŷn, gan geisio gwella profiad myfyrwyr hŷn a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 oed.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr, gan geisio gwella eu profiad fel myfyrwyr ac adeiladu rhwydwaith gweithredol ar gyfer Myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr.
Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo pob agwedd ar iechyd a llesiant myfyrwyr, yn ogystal â gwella profiad myfyrwyr yn PCyDDS
Mae'r rôl hon yn bodoli i hybu cynaladwyedd, ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgaredd cynaliadwy ac ymgyrchu dros Brifysgol a chymuned ehangach fwy cynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn bodoli i annog a hyrwyddo pob agwedd o wirfoddoli. Bydd y swyddog yn helpu i drefnu mentrau gwirfoddoli a chodi arian i elusennau, gan weithio'n glòs iawn gyda chlybiau a chymdeithasau i annog gweithgarwch dan arweiniad myfyrwyr.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynorthwyo a chynrychioli clybiau chwaraeon sy'n gysylltiedig â’r undeb, gan roi cefnogaeth iddyn nhw weithio tuag at achrediad i’w clwb, a’u helpu i hyrwyddo eu gweithgareddau a'u cynnal yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynorthwyo a chynrychioli cymdeithasau sy'n gysylltiedig â’r undeb, gan roi cymorth iddyn nhw weithio tuag at achrediad i’w clwb, a’u helpu i hyrwyddo eu gweithgareddau a'u cynnal yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys hyrwyddo digwyddiadau ac arolygon, Undebau Dros-dro a diwrnodau Agored y Brifysgol.