Cwestiynau am Gyfeirnodi a Chamymddwyn Academaidd

Cwestiynau am Gyfeirnodi a Chamymddwyn Academaidd

Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Gyfeirnodi a Chamymddwyn Academaidd. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.

 

Mewn aseiniadau ar lefel Prifysgol, mae angen i chi egluro beth yw eich mewnwelediadau a'ch syniadau eich hun, a beth rydych chi wedi'i gymryd o ffynonellau eraill (a beth yw'r ffynonellau hynny). Mae hefyd angen i chi wneud hyn mewn ffordd gyson, gan ddilyn y fformat y cytunwyd arno. Dyma yw 'cyfeirnodi'.


Er enghraifft, os ydych yn dyfynnu’n uniongyrchol gan o waith rhywun arall, mae angen i chi ei gwneud yn glir mai dyfyniad uniongyrchol yw hwn (trwy ddefnyddio “dyfynodau”). Yn ogystal â hynny, hyd yn oed pan fyddwch chi'n ysgrifennu syniadau rhywun arall yn eich geiriau eich hun, mae angen i chi ddefnyddio cyfeirnodi o hyd i ddangos o ble y daeth y syniad gwreiddiol.


Os nad ydych yn defnyddio cyfeirnodi, mae’n bosib y byddwch yn 'dwyn' syniadau pobl eraill ac yn eu defnyddio mewn aseiniadau fel pe bai’r syniadau hynny’n perthyn i chi. Gallai hyn arwain at eich cael yn euog o Gamymddwyn Academaidd - a gall y gosb am hyn o fewn system y Brifysgol fod yn eithaf difrifol (gallech hyd yn oed gael eich diarddel).


Mae pedair gwahanol 'arddull' ar gyfer cyfeirnodi yn cael eu defnyddio yn PCyDDS. Gallwch ddod o hyd i'r arddull cyfeirnodi sy'n ofynnol ar gyfer eich rhaglen yn Llawlyfr eich Rhaglen.


Mae Llawlyfr Cyfeirnodi yn perthyn i bob un o’r pedair arddull, a ddarperir gan y Llyfrgell, sy'n eich arwain gam-wrth-gam trwy’r broses o gyfeirnodi.


Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr ynghylch sut i gyfeirnodi'n gywir:

• Bydd eich Llyfrgellydd Cydlynu Academaidd wrth law i'ch helpu chi.

• Mae'r Llyfrgell yn cynnal Gweithdai Sgiliau Gwybodaeth ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad: Yr Hanfodion.

• Gallwch chi bob amser ofyn i'ch darlithwyr! Peidiwch ag anghofio bod cyfeirnodi ar un adeg yn gysyniad newydd ac anodd iddyn nhw hefyd.


Gallwch chi hefyd gysylltu â ni am gyngor os ydych chi'n dal i fod yn ansicr ble rydych chi'n sefyll, a byddwn ni'n eich cyfeirio chi at y ffynhonnell gywir ar gyfer cymorth.

Mae llên-ladrad yn un math o Gamymddwyn Academaidd. Mae Polisi Camymddwyn Academaidd PCyDDS yn ei ddiffinio fel hyn:


3.1.1.1. “Llên-ladrad” - cyflwyno gwaith neu syniadau rhywun arall fel gwaith y myfyriwr ei hun; Defnyddio gwaith awdur arall


Nid yw hyn yn golygu copïo gwaith rhywun arall yn unig. Gall hefyd olygu, er enghraifft, darllen erthygl mewn cyfnodolyn a defnyddio'r syniadau ohoni, ond heb sôn o ble mae'r syniadau wedi dod - hyd yn oed petaech chi'n defnyddio'ch geiriau eich hun.


Mae'r Polisi Camymddwyn Academaidd yn ei gwneud yn glir iawn y gellir eich cael yn euog o Gamymddwyn Academaidd, hyd yn oed os oedd yn ddamweiniol, neu os bu i chi anghofio sôn am eich ffynonellau.


Am y rheswm hwn, mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd yr amser i ddeall y gofynion o ran cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.


Gallwch ddarganfod pa arddull ar gyfer cyfeirnodi y mae eich rhaglen yn ei defnyddio yn Llawlyfr eich Rhaglen, ac mae'r Llyfrgell yn cynnig Llawlyfr Cyfeirnodi cynhwysfawr i'ch helpu chi i gyfeirnodi’n gywir.


Gallwch chi hefyd gysylltu â ni am gyngor os ydych chi'n dal i fod yn ansicr ble rydych chi'n sefyll, a byddwn ni'n eich cyfeirio chi at y ffynhonnell gywir ar gyfer cymorth.

Mae rhai o staff y Brifysgol yn cyfeirio at Gamymddwyn Academaidd fel 'Ymarfer Annheg'. Fodd bynnag, y term cywir, cyfoes yn y rheoliadau yw Camymddwyn Academaidd.


Os ydych chi wedi derbyn e-bost a dydych chi ddim yn siŵr beth mae’n sôn amdano, cysylltwch â ni am gyngor.

Nac ydy - nid yw 'arfer academaidd gwael' mor ddifrifol â Chamymddwyn Academaidd, ac nid oes cosb swyddogol (er y byddwch wedi sgorio marc isel am gyfeirnodi ar gyfer yr aseiniad hwn).


Fodd bynnag, dylech drin yr adborth hwn fel 'rhybudd’ a sicrhau eich bod yn cymryd yr amser i ddeall cyfeirnodi.


Mae'r Polisi Camymddwyn Academaidd yn diffinio 'arfer academaidd gwael' fel a ganlyn:


3.1.2. “Arfer Academaidd Gwael” - h.y. gweithredu’n groes i fân gonfensiynau academaidd safonol, megis rhywfaint o gyfeirnodi wedi’i briodoli’n wael neu’n anghywir, neu orddibyniaeth ar ddeunydd wedi’i gyfeirnodi. Mae hyn hefyd yn cynnwys methu â deall a dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer yr asesiad yn ddigonol.


Os yw'r adborth yn nodi bod tystiolaeth o 'arfer academaidd gwael', mae hyn yn awgrymu y gallai fod gan y sawl sy’n marcio’r gwaith bryderon ynghylch eich cyfeirnodi nes eu bod yn teimlo ei bod yn bwysig gofyn y cwestiwn a oedd tystiolaeth o Gamymddwyn Academaidd.


Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr adborth yn ofalus i ddeall pam mae'r marcwyr wedi codi'r pryder hwn am eich gwaith. Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr, cysylltwch â'ch darlithwyr i gael eglurhad. Gallwch hefyd gysylltu â ni am gyngor.

Yn anffodus, na fyddant. Mae'r Polisi Camymddwyn Academaidd yn nodi'n glir:


2.5. Nid yw honiad bod Camymddwyn Academaidd wedi'i gyflawni yn anfwriadol neu'n ddamweiniol yn amddiffyniad.


13.9.2. Pan fydd yr esboniad yn dibynnu'n llwyr ar honiad bod y camymddwyn academaidd wedi'i gyflawni'n anfwriadol neu'n ddamweiniol neu fod y camymddwyn academaidd wedi'i gyflawni oherwydd amgylchiadau esgusodol neu nam hir-dymor, bernir bod y myfyriwr wedi derbyn yr honiad o gamymddwyn academaidd.


Os ydych chi’n ceisio dibynnu ar yr amddiffyniad nad oeddech chi’n deall y rheolau ar gyfer cyfeirnodi, bydd y Brifysgol yn ymateb mai eich cyfrifoldeb chi yw eu deall (a gofyn am gymorth os nad ydych chi'n siŵr). Byddant hefyd yn eich atgoffa iddynt egluro'r rheolau yn ystod eich cyfnod sefydlu (ac efallai ar adegau eraill yn eich cwrs hefyd) - hynny yw, maent wedi rhoi cyfleoedd i chi ddeall y rheolau.


Os ydych chi'n credu na chawsoch eich hysbysu ynghylch sut i gyfeirnodi'n gywir - neu fod y canllawiau a roddodd y Brifysgol i chi ar gyfeirnodi yn gamarweiniol - mae’n bosib y gallwch chi wneud Cwyn Ffurfiol. Cysylltwch â ni am gyngor.

Yn anffodus, na fyddant. Mae'r Polisi Camymddwyn Academaidd yn nodi'n glir:


2.6. Nid yw honiad bod Camymddwyn Academaidd wedi'i gyflawni oherwydd amgylchiadau esgusodol (p’un a yw'r Brifysgol wedi cydnabod yr amgylchiadau hyn ai peidio) yn amddiffyniad.


13.9.2. Pan fydd yr esboniad yn dibynnu'n llwyr ar honiad bod y camymddwyn academaidd wedi'i gyflawni'n anfwriadol neu'n ddamweiniol neu fod y camymddwyn academaidd wedi'i gyflawni oherwydd amgylchiadau esgusodol neu nam hir-dymor, bernir bod y myfyriwr wedi derbyn yr honiad o gamymddwyn academaidd.


Os ydych yn ceisio dibynnu ar yr amddiffyniad hwn, bydd y Brifysgol yn dweud y dylech fod wedi datgan yr anawsterau yn eich bywyd personol (neu unrhyw broblemau iechyd) yn y ffordd gywir (h.y. trwy wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol). Neges y Brifysgol yw ei bod yn well cyflwyno aseiniad wedi’i gyfeirnodi’n gywir sydd ddim yn adlewyrchiad o’ch gwaith gorau (neu'n hwyr), yn hytrach nag aseiniad sy’n cynnwys tystiolaeth o Gamymddwyn Academaidd.


Os ydych chi'n credu bod gennych chi achos i wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol, ond eich bod heb wneud cais mewn pryd (a gallwch chi ddangos pam), efallai bod gennych chi achos dros wneud Apêl Academaidd. Cysylltwch â ni am gyngor. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio, hyd yn oed os yw'ch Apêl yn llwyddiannus, na fydd yn newid y ffaith bod y Brifysgol wedi canfod tystiolaeth o Gamymddwyn Academaidd - felly gallai'r gosb am Gamymddwyn Academaidd fod yn berthnasol o hyd.

Os yw'ch ffrind yn eich helpu i 'brawf-ddarllen' eich gwaith, mae yna reolau llym iawn y mae'n rhaid eu dilyn. Yn ôl y Polisi Camymddwyn Academaidd:


30.2. Gall prawf-ddarllenydd wirio am, canfod ac awgrymu cywiriadau ar gyfer gwallau yn y testun. Ni ddylai’r prawf-ddarlenydd dan unrhyw amgylchiadau olygu’r hyn mae myfyriwr wedi’i ysgrifennu (er enghraifft, newid syniadau, dadleuon neu strwythur) gan y bydd hyn yn peryglu awduraeth y gwaith.


Mae Adran 30 o'r Polisi Camymddwyn Academaidd yn nodi'r hyn y gall, ac na all, y sawl sy’n prawf-ddarllen ei wneud ar eich rhan chi. Y pwynt allweddol yw y gall y prawf-ddarllenydd dynnu sylw at broblemau yn yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu - ond ni allant ysgrifennu unrhyw eiriau na brawddegau ar eich rhan chi.


Os gofynnwch i rywun eich helpu gyda'ch gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn:


• Rhannu Adran 30 o'r Polisi Camymddwyn Academaidd gyda'r prawf-ddarllenydd, fel nad ydyn nhw'n 'gor-gywiro' eich gwaith yn ddamweiniol ac yn eich cael chi i drafferthion.
• Cadwch fersiynau 'cyn' ac 'ar ôl'. Trwy wneud hynny, os cewch eich cyhuddo o Gamymddwyn Academaidd, gallwch ddangos eich bod chi a'r prawf-ddarllenydd wedi dilyn y rheolau.


Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich ffrind neu’r sawl sy’n prawf-ddarllen yn deall rheoliadau PCyDDS, dim ond oherwydd eu bod wedi helpu myfyrwyr PCyDDS o'r blaen.


Os cawsoch eich cyhuddo o Gamymddwyn Academaidd, er eich bod yn credu eich bod wedi dilyn y rheolau ar brawf-ddarllen yn gywir - neu os oes gennych ragor o gwestiynau am yr hyn y gall neu na all darllenydd proflenni ei wneud - cysylltwch â ni am gyngor.

Mae prynu traethawd, yn lle ysgrifennu un eich hun, yn gamgymeriad enfawr.


Mae Polisi Camymddwyn Academaidd PCyDDS yn cynnwys prynu traethawd gan gwmni o dan y diffiniad o 'Twyllo trwy Gontract':


“3.1.1.5 Twyllo trwy gontract - lle mae rhywun yn cwblhau gwaith ar ran myfyriwr, sydd wedyn yn ei gyflwyno fel ei waith ei hun, gan gynnwys:
• defnyddio gwasanaeth ysgrifennu traethodau neu brynu gwaith ar-lein;
• trefnu i rywun arall ddynwared myfyriwr ar gyfer cwblhau asesiad;


O dan gosbau ar gyfer Camymddwyn Academaidd PCyDDS, y gosb uchaf yw cael eich diarddel o'r Brifysgol.


Rydym hefyd wedi clywed am fyfyrwyr yn cael eu haflonyddu (a hyd yn oed eu blacmelio) gan y cwmni neu'r unigolyn a werthodd y traethawd.


Mae'n haws i'r Brifysgol ddarganfod bod myfyriwr wedi prynu traethawd nag y byddech chi'n ei feddwl. Er enghraifft:


• Er bod y cwmni neu'r unigolyn sy'n gwerthu'r traethawd yn honni bod y traethawd yn wreiddiol, mae’n bosib eu bod nhw wedi gwerthu'r un traethawd (neu un tebyg iawn) i fyfyriwr arall. Bydd Turnitin (meddalwedd canfod llên-ladrad y Brifysgol) yn canfod hyn yn gyflym iawn - hyd yn oed pe bai'r traethawd wedi cael ei werthu i fyfyriwr mewn prifysgol arall.
• Mae llawer o 'felinau traethawd' (cwmnïau sy'n gwerthu traethodau) yn defnyddio'r un ffynonellau generig o ansawdd isel wrth gyfeirnodi dro ar ôl tro. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddarlithwyr weld traethodau a all fod yn gynnyrch 'melin draethawd'.
• Bydd eich darlithwyr yn fwy cyfarwydd â'ch arddull o siarad ac ysgrifennu nag y byddech chi'n ei feddwl. Os ydyn nhw'n sylwi ar anghysondebau yn eich mynegiant ysgrifenedig, gallai hyn eu cymell i ymchwilio ymhellach.


Yn fyr, mae prynu traethawd bob amser yn syniad gwael. Mae yna ffynonellau cymorth gwell ar gael.


Os mai'r broblem yw nad yw'ch ffrind yn siŵr sut i gyfeirnodi'n gywir:


• Bydd y Llyfrgellydd Cydlynu Academaidd bob amser wrth law i’w helpu.
• Mae'r Llyfrgell yn cynnal Gweithdai Sgiliau Gwybodaeth ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad: Yr Hanfodion.
• Gall eich ffrind bob amser ofyn i'w darlithwyr! Peidiwch ag anghofio bod cyfeirnodi ar un adeg yn gysyniad newydd ac anodd iddyn nhw hefyd.


Os mai'r broblem yw bod rhesymau personol neu iechyd yn golygu na fydd eich ffrind yn gallu cyflwyno eu haseiniad mewn pryd:


• Gall eich ffrind gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr ar eu campws i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig ystod o gymorth yn benodol ar gyfer materion anabledd, iechyd meddwl a llesiant cyffredinol.
• Gall eich ffrind hefyd wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer yr aseiniad, hyd at 3 wythnos ar ôl y terfyn amser. Bydd angen tystiolaeth arnyn nhw i ategu eu cais. Gallwn helpu ag arwain eich ffrind trwy'r broses hon, felly cysylltwch â ni am gyngor.

Nid yw hyn yn golygu eich bod eisoes wedi eich cael yn euog o Gamymddwyn Academaidd. Fodd bynnag, mae'n golygu bod eich darlithwyr yn poeni efallai nad eich gwaith eich hun yn unig yw aseiniad rydych chi wedi'i gyflwyno.


Yr 'arholiad llafar' neu'r 'viva' hwn - sydd fel arfer yn cael ei gadeirio gan y Cydlynydd Camymddwyn Academaidd ar gyfer eich rhaglen - yw eich cyfle i ddangos mai eich gwaith CHI yw’r aseiniad sydd dan sylw. Mae'n bwysig, felly, eich bod chi'n paratoi ar gyfer hyn yn ofalus:


• Bydd y Ffurflen Ymchwiliad i Gamymddwyn Academaidd SC05 sydd ynghlwm wrth yr e-bost yn egluro pam mae eich darlithydd yn credu y gallai fod tystiolaeth o Gamymddwyn Academaidd. Gwnewch yn sicr eich bod wedi deall pam fod eich darlithwyr yn bryderus, a'ch bod yn barod i fynd i'r afael â'r holl bwyntiau maen nhw wedi’u codi.
• Ailddarllenwch eich aseiniad, fel eich bod chi'n gyfarwydd â’r cynnwys. Efallai y byddan nhw'n gofyn cwestiynau am y cynnwys, i wneud yn siŵr eich bod chi'n deall yn iawn yr hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu.
• Sicrhewch fod gennych yr adnoddau a ddefnyddiwyd gennych i ysgrifennu'r aseiniad wrth law yn ystod y viva, fel y gallwch chi ddangos sut aethoch chi ati i’w ysgrifennu. Os oes gennych chi ddrafftiau o'r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu, sicrhewch fod gennych y rheini wrth law hefyd.


Caniateir i chi ddod â ffrind i fod yn gefn i chi (ond gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu'r Cydlynydd Camymddwyn Academaidd ymlaen llaw). Fodd bynnag, ni all y person sy’n dod gyda chi siarad ar eich rhan yn y cyfarfod nac ymyrryd mewn unrhyw ffordd.


Gallwch hefyd ofyn i'r Cydlynydd Camymddwyn Academaidd aildrefnu, os nad ydych ar gael ar yr amser a gynigir.


Gallwch chi gysylltu â ni i weld a oes aelod o'r tîm Cynghori ar gael i ymuno â chi yn y viva. Neu, os byddai'n well gennych chi fynd ar eich pen eich hun neu ddod â rhywun arall i'r viva gyda chi, gallwn hefyd gynnig cyngor ar baratoi ar gyfer y cyfarfod.


Os na fyddwch chi'n mynychu’r viva, bydd y Cydlynydd Camymddwyn Academaidd yn trin hyn fel pe baech yn derbyn yr honiad o Gamymddwyn Academaidd. (Os ydych chi'n dymuno derbyn yr honiad, mae'n well ei dderbyn yn ysgrifenedig, er mwyn arbed yr amser ac ymdrech sy’n mynd i drefnu'r viva!)

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif i gael cyngor ynghylch yr e-bost hwn (neu unrhyw e-bost am Gamymddwyn Academaidd) gynted â phosib - po gynharaf y byddwch yn cysylltu â ni, y mwyaf o gefnogaeth y gallwn ei gynnig i chi.


Cyn i chi ymateb, darllenwch yr e-bost a'r atodiadau yn ofalus. Dylai'r e-bost nodi:


• Pa Fodiwl, a pha Gydrannau o'r Modiwl, sydd wedi’u hamau o gynnwys Camymddwyn Academaidd. Dylai hefyd nodi pa ganran (%) o'r Modiwl mae’r Cydrannau yr effeithir arnynt werth.
• P'un a yw hon yn drosedd honedig gyntaf neu’r ail (neu uwch). Os nad yw'n drosedd honedig gyntaf, dylai hefyd nodi a yw'r Swyddfa Academaidd yn ystyried y drosedd honedig hon fel digwyddiad 'cydamserol'. Os yw'n 'gydamserol', mae hyn yn golygu y bydd y Swyddfa Academaidd yn ei drin fel petai wedi digwydd yn yr un cyfnod â'r drosedd gyntaf.
• Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i chi ymateb - dylai hyn fod o fewn 14 diwrnod. Gwiriwch fod y dyddiad cywir wedi'i roi! Gwneir camgymeriadau weithiau.
• Y gosb a osodir, os byddwch chi’n Derbyn yr honiad. Ni fydd yr e-bost yn dweud pa gosb fydd yn cael ei gosod os byddwch chi'n Gwadu'r honiad.


Dylech wirio'r Ffurflen Ymchwiliad i Gamymddwyn Academaidd SC05 sydd ynghlwm:


• Yn Adran B y Ffurflen hon, edrychwch ar 'Manylion Camymddwyn Academaidd Honedig'. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yn union pam y cyfeiriodd y Tiwtor Modiwl eich gwaith at y Cydlynydd Camymddwyn Academaidd. Hefyd, edrychwch ar sylwadau'r Cydlynydd Camymddwyn Academaidd.
• Hefyd, edrychwch ar 'Faint y camymddwyn academaidd honedig'. Mae maint y drosedd - o'r 'Lleiaf posib' i 'Difrifol' - yn cael effaith ar y gosb a osodir.


Yn Adran D y Ffurflen hon, gallwch egluro a ydych yn dymuno Derbyn neu Wadu'r honiad:


• Os ydych yn Derbyn, y gosb fydd yr hyn a ddisgrifir yn yr e-bost.
• Os ydych yn Gwadu, bydd y Swyddfa Academaidd yn ymchwilio i’r mater. Os yw'r Swyddfa Academaidd yn cytuno â'ch safbwynt, ni osodir cosb. Fodd bynnag, os yw'r Swyddfa Academaidd yn anghytuno â chi, mae peryg y byddwch chi’n wynebu cosb fwy difrifol, felly ar bob cyfrif, cysylltwch â ni am gyngor.
• Os ydych yn dymuno Gwadu, gwnewch yn siŵr bod eich datganiad yn mynd i’r afael â phryderon y Tiwtor Modiwl a’r Cydlynydd Camymddwyn Academaidd. Dylech atodi tystiolaeth - drafftiau o'ch gwaith, prawf o'r deunyddiau y gwnaethoch chi eu defnyddio i ysgrifennu'r gwaith, a.y.b. - i ddangos mai eich gwaith eich hun yn llwyr yw hwn. Cysylltwch â ni am gyngor ar hyn.
• Os ydych yn Gwadu, ond bod eich datganiad yn nodi yn syml nad oeddech yn deall cyfeirnodi neu fod 'amgylchiadau esgusodol' wedi eich arwain i gamymddwyn yn academaidd (neu os byddwch yn gadael y datganiad yn wag), bydd hyn yn cael ei drin fel Derbyn.


Dylech hefyd wirio'r Ffurflen Gosb am Gamymddwyn Academaidd SC06 sydd ynghlwm: Mae'r ddogfen hon yn eithaf cymhleth, ond, yn syml, mae'r gosb yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys:


• Eich lefel astudio
• Unrhyw hanes o gamymddwyn academaidd - hynny yw, ai dyna'r drosedd gyntaf, ac a yw troseddau eraill yn cael eu trin fel rhai 'cydamserol' (yn digwydd ar yr un pryd)
• Pa gyfran o'r Modiwl a gynrychiolir gan yr aseiniad ('cydran') dan sylw
• Pa ganran o'r aseiniad a ystyrir yn Gamymddwyn Academaidd
• P'un a ydych chi'n dewis Derbyn ai peidio


Mae nifer wahanol o 'bwyntiau' ynghlwm â phob un o'r ffactorau uchod. Po uchaf yw cyfanswm y pwyntiau, y mwyaf difrifol yw'r gosb.


Nid yw'r e-bost yn nodi'n union faint o bwyntiau sy’n perthyn i’ch aseiniad o dan y 'system bwyntiau' hon, na sut y cyfrifwyd hyn. Os nad ydych chi'n siŵr, e-bostiwch aocases@uwtsd.ac.uk i ofyn am esboniad, neu cysylltwch â ni am gyngor.

Ar ôl i chi anfon y ffurflen i'r Swyddfa Academaidd, bydd y Swyddog Achos yn adolygu'ch datganiad yn Adran D y Ffurflen.


Os yw'r Swyddog Achos yn teimlo bod eich datganiad yn dibynnu ar ddim mwy nag 'amgylchiadau esgusodol' neu ar beidio â deall y rheolau, byddant yn dehongli hyn fel Derbyn yr honiad. (Os felly, byddwch chi'n elwa o'r gosb lai difrifol).


Fel arall, bydd y Swyddfa Academaidd yn trefnu Panel Ymchwilio i Gamymddwyn Academaidd. Bydd y Panel hwn yn cyfarfod cyn pen 30 diwrnod. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Academaidd - aocases@uwstsd.ac.uk - os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ganddynt.


Mae’n bosib y bydd y Panel Ymchwilio i Gamymddwyn Academaidd yn eich gwahodd i roi tystiolaeth. Os felly, byddant yn rhoi o leiaf 10 diwrnod o rybudd i chi o'r cyfarfod. Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle i chi gyflwyno'ch achos. Gwnewch yn sicr fod gennych eich holl dystiolaeth wrth law - drafftiau o'ch gwaith, adnoddau y gwnaethoch eu defnyddio i'w ysgrifennu, a.y.b.


Mae croeso i chi wahodd ffrind neu aelod o dîm Cynghori’r UM i ymuno â chi (ond ni chânt siarad yn y cyfarfod). Cysylltwch â ni i gael cyngor ar baratoi ar gyfer y cyfarfod hwn (neu os ydych chi am i ni fynd gyda chi). Gallwch ddisgwyl clywed y canlyniad cyn pen 14 diwrnod o'r cyfarfod.

Unwaith y bydd y Panel Ymchwiliad i Gamymddwyn Academaidd wedi dod i'w benderfyniad, mae gennych yr opsiwn i wneud cais am Adolygiad o’r Canlyniad, trwy lenwi Ffurflen Adolygu Canlyniad SC11 (y gallwch ddod o hyd iddi yma).


Mae gennych hyd at 14 diwrnod ar ôl rhyddhau penderfyniad y Swyddfa Academaidd i wneud hyn. Cysylltwch â ni am gyngor mor gynnar â phosibl yn y mater hwn.


Er mwyn 'ennill' yr Adolygiad o’r Canlyniad, byddai angen i chi fodloni un o'r 'seiliau' a restrir yn y Polisi Camymddwyn Academaidd:


“16.1.1.1. anghysondeb yn y modd y cynhaliwyd y weithdrefn camymddwyn academaidd, sy’n ddigon i beri amheuaeth resymol na fyddai'r un penderfyniad wedi'i wneud pe bai hynny heb ddigwydd”: Gallwch wneud cais am Adolygiad o’r Canlyniad os gallwch ddangos na ddilynwyd y weithdrefn ar gyfer ymchwilio i Gamymddwyn Academaidd (ym Mholisi Camymddwyn Academaidd PCyDDS) yn gywir.


“16.1.1.2. bodolaeth tystiolaeth berthnasol newydd na allai'r myfyriwr, am resymau digonol, fod wedi’i darparu ynghynt yn y broses”: Gallwch wneud cais am Adolygiad o’r Canlyniad os oes gennych chi fwy o dystiolaeth nad oedd y Swyddfa Academaidd wedi’i hystyried. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i chi ddangos hefyd bod gennych chi reswm da dros beidio â darparu'r dystiolaeth hon ar y pryd.


“16.1.1.3. na chaniatawyd y canlyniad o dan y gweithdrefnau”: Gallwch wneud cais am Adolygiad o’r Canlyniad os penderfynwyd ar y gosb ei hun yn anghywir (er enghraifft, os yw'r gosb yn fwy difrifol nag y dylai fod, o ystyried nifer y 'pwyntiau' a sgoriodd eich achos o dan system bwyntiau SC06).


Ar ôl i chi wneud cais am Adolygiad o’r Canlyniad, dylech dderbyn ymateb terfynol y Brifysgol cyn pen 28 diwrnod. Cadwch lygad ar eich e-byst rhag ofn y bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â chi i gael mwy o dystiolaeth neu eglurhad.


Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o’r Canlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o’r Canlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad cau eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.