Myfyrwyr sy’n Rhieni

A collage of student parents and their families

 

Myfyrwyr sy’n Rhieni yn PCyDDS

Croeso mawr i’r myfyrwyr hynny sy’n rheini ac yn astudio yn PCyDDS, gan eich Undeb Myfyrwyr!

Undeb Myfyrwyr PCyDDS yw eich Undeb Myfyrwyr CHI. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, a'n cennad yw cynrychioli buddiannau pob myfyriwr - gan gynnwys myfyrwyr sy’n rhieni.

Rydym yn cael ein harwain gan dîm o Swyddogion a Chynrychiolwyr etholedig, sy'n awyddus i glywed mwy gan fyfyrwyr sy’n rheini am yr hyn a fyddai'n gwella'ch profiad fel myfyrwyr.

Yn ogystal â'r Swyddogion llawn-amser, mae'r tîm Swyddogion yn cynnwys Swyddogion Myfyrwyr sy’n Rheini / Gofalwyr ar gyfer Abertawe, Caerfyrddin a Llambed. Ochr-yn-ochr â'u hastudiaethau, mae'r swyddogion rhan-amser hyn yn cynrychioli myfyrwyr sy’n rhieni’n benodol pan fydd Undeb y Myfyrwyr yn mynd ati i wneud penderfyniadau. Cysylltwch â'r tîm Swyddogion - byddent wrth eu bodd yn clywed gennych chi.

---

Gwnewch y gorau o'ch profiad fel myfyrwyr

Mae myfyrwyr sy’n rhieni’n dod ag ystod o brofiadau bywyd a rhinweddau sy'n cyfoethogi bywyd ar y campws i bawb yng nghymuned PCyDDS. Mae llawer o fyfyrwyr sy’n rhieni yn weithgar ym maes gweithgareddau a digwyddiadau, ac maent yn sefyll etholiadau ar gyfer rolau Swyddogion a Chynrychiolwyr.

---

Cynnig cymorth i fyfyrwyr sy’n rhieni trwy heriau bywyd y Brifysgol

Ar yr un pryd, rydym yn deall bod myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau rhieni yn wynebu heriau penodol - yn arbennig agweddau ariannol, a threfnu eu hastudiaethau o amgylch gofal plant a chyfrifoldebau personol. Mae ein tîm Cynghori wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ar gael i chi gan y Brifysgol.

---

Cymorth i fyfyrwyr sy'n rhieni

Cynhaliaeth Ariannol

  • Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n derbyn yr hyn mae gennych chi hawl iddo gan Cyllido Myfyrwyr Lloegr / Cyllido Myfyrwyr Cymru: Grant Gofal Plant a Lwfans Dysgu ar gyfer Rhieni. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael lleoedd gofal plant wedi’u hariannu gan y Llywodraeth, neu am gydran Gofal Plant at eich Credydau Treth.
  • Os nad ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw un o'r uchod, mae gan y Brifysgol Fwrsariaeth Gofal Plant ei hun.
  • Mae gan y Brifysgol hefyd Gronfa Caledi ar gyfer myfyrwyr sydd mewn angen ariannol dybryd.
  • Yn ogystal, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn mathau eraill o gyllido a restrir ar dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau'r Brifysgol.

 

Cymorth Astudio

  • Os oes angen mwy o amser arnoch i gwblhau eich aseiniadau oherwydd materion brys neu newid yn amgylchiadau eich bywyd teuluol, gallwch wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol ar MyTSD. Cysylltwch â'r tîm Cynghori am help gyda hyn.
  • Mae'r Brifysgol wedi cytuno i symleiddio'r dystiolaeth sy'n ofynnol ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol. Er enghraifft, os yw ysgol ar gau, derbynnir sgrin-lun o gyhoeddiad yr ysgol.
  • Bydd eich Rheolwr Rhaglen yn gallu eich cynghori ynghylch a oes unrhyw gamau y gellir eu cymryd i'ch helpu i reoli gofynion eich rhaglen - er enghraifft, a oes mwy o hyblygrwydd o ran aseiniadau yn bosibl. Peidiwch â theimlo'n swil ynglŷn â gofyn am eu cefnogaeth, a chysylltwch â'r tîm Cynghori os ydych chi am i ni gynnig cymorth i chi gyda’r sgwrs hon.
  • Dylai eich Tiwtor Personol allu rhoi arweiniad ychwanegol i chi, ac mae gan dîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol ystod eang o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr.
  • Mae llawer o ddarlithwyr eisoes yn recordio eu darlithoedd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymgyrchu i wneud hyn yn rheol ar draws pob maes pwnc, er mwyn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr sy’n rhieni reoli eu hamser.