Addasrwydd i Ymarfer

Cwestiynau am Addasrwydd i Ymarfer

Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Addasrwydd i Ymarfer. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.

 

Mae'r rhan fwyaf o gyrff proffesiynol yn gwneud addasrwydd i ymarfer yn ofyniad ar gyfer cofrestru i ymarfer. Bydd yr union ofynion ar gyfer addasrwydd i ymarfer yn amrywio o gorff i gorff Rhaid i ddarparwyr addysg uwch sy'n cynnal cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau proffesiynol fod â gweithdrefnau sy'n sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd myfyriwr i ymarfer yn deg, yn brydlon ac yn gymesur.


Addasrwydd i ymarfer yw'r gallu i fodloni safonau proffesiynol; mae'n ymwneud â chymeriad, cymhwysedd proffesiynol ac iechyd. Nid cosbi am gamwedd yw pwrpas proses addasrwydd i ymarfer. Y nod yw sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch rheiny sydd o'u cwmpas, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal â diogelu hyder y cyhoedd yn y proffesiwn. Dylai'r broses fod yn gefnogol hyd yn oed os yw’r canlyniad yn golygu na allwch chi barhau â'ch astudiaethau.

 


Ymddygiad amhroffesiynol – gallai hyn gynnwys troseddau bwlio ac aflonyddu, ymddygiad neu agwedd amhriodol dro ar ôl tro, euogfarn o drosedd, camymddwyn academaidd, ffugio cofnodion, anonestrwydd, torri cyfrinachedd, methu â hunanfyfyrio.


Iechyd – gallai hyn gynnwys materion iechyd corfforol a/neu feddyliol sy’n peryglu eich gallu i gydymffurfio â’r gofynion proffesiynol. Methu â cheisio cymorth neu ymgysylltu â gwasanaethau priodol ynghylch materion iechyd.

Bydd yr hyn y byddwch yn ei gynnwys yn eich datganiad yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol ac a ydych yn cyfaddef neu'n gwadu'r honiadau. Fel canllaw cyffredinol, gall fod yn ddefnyddiol ystyried y pwyntiau canlynol:

 


• Myfyrio. Os gallai eich ymddygiad fod wedi torri’r rheolau a/neu fethu â chyrraedd y safonau gofynnol, mae’n bwysig myfyrio ar hynny. Mae angen i chi egluro eich dealltwriaeth o pam mae addasrwydd i ymarfer yn bwysig a sut yn union y gall eich ymddygiad neu iechyd fod yn destun pryder. A ydych o bosibl wedi tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn? A ydych wedi postio rhywbeth a fyddai’n dwyn anfri ar y proffesiwn pe bai’n cael ei rannu? Pam mae’n bwysig i eraill fod â hyder ynoch chi a’r proffesiwn? Os gallwch chi ddangos eich bod yn deall natur y broblem yn llawn, gallwch ddangos eich bod yn cymryd y mater o ddifrif ac yn gwneud popeth i sicrhau nad yw'n digwydd eto.

• Ymddiheuriad. Os ydych wedi torri rheolau, hyd yn oed yn anfwriadol, mae'n bwysig dangos edifeirwch. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, ond mae ymddiheuro yn dangos yr agwedd gywir wrth symud ymlaen a gall roi sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto.

• Bwriad. Oeddech chi'n bwriadu torri'r rheolau neu achosi pryder? Os oeddech wedi gweithredu’n fwriadol, mae'n well peidio â thrafod hyn yn eich datganiad. Os nad oedd yr hyn a wnaethoch yn fwriadol, beth ddigwyddodd?

• Cyd-destun. Os oes rhywfaint o gyd-destun i'r hyn a ddigwyddodd a allai fod o gymorth i esbonio'r hyn a wnaethoch chi, dylech ei gynnwys ond byddwch yn ofalus gyda goslef eich llais. Peidiwch â cheisio esgusodi unrhyw gamwedd, ond yn hytrach dywedwch eich bod am egluro beth oedd yn digwydd ar y pryd i roi rhywfaint o gyd-destun i'r honiadau.

• Lliniaru. A oes unrhyw ffactorau lliniarol a allai, fel cyd-destun, helpu i egluro beth ddigwyddodd neu ei wneud yn llai difrifol? Er enghraifft, os oeddech wedi estyn allan am gymorth, neu wedi tynnu sylw at y mater hwn eich hun.

• Amgylchiadau Esgusodol Eglurwch a oedd unrhyw beth yn effeithio arnoch chi a allai fod wedi effeithio ar eich barn/meddwl. Mae angen i chi fod yn onest ond yn ofalus gyda sut rydych chi'n dweud yr hyn rydych chi'n ei ddweud yma. Os oedd rhywbeth wedi digwydd a oedd yn amharu ar eich synnwyr cyffredin, gall hynny ynddo’i hun fod yn broblem os na wnaethoch chi ddangos y mewnwelediad priodol ar y pryd. Er enghraifft, os oeddech yn dioddef o anhunedd ac wedi gwneud camgymeriad ar y ward, bydd angen i chi esbonio pam y bu i chi fynychu eich lleoliad gwaith y diwrnod hwnnw pan nad oeddech yn gymwys i wneud hynny.

• Casgliad. Gorffennwch gydag esboniad o'r hyn rydych chi wedi'i wneud/yn mynd i'w wneud i atal hyn rhag digwydd eto a sut rydych chi'n teimlo am eich cwrs a'ch proffesiwn. Gall ailadrodd eich ymddiheuriad, ynghyd ag addewid i ymrwymo i'r proffesiwn, helpu i ddod â'ch datganiad i ben yn y tôn cywir.


Erbyn diwedd y rhaglen, y gobaith yw y byddwch ar y trywydd iawn i ddiwallu’r holl safonau proffesiynol er mwyn cyflawni Statws Athro Cymwysedig. Er mwyn cynorthwyo'r rhai na fydd efallai'n cyflawni’r statws hwn erbyn diwedd y rhaglen, efallai y cewch eich rhoi yng nghategori 'Achos Pryder'. Bydd hyn fel arfer yn cael ei reoli'n anffurfiol ar y rhaglen gydag ymyriad agosach gan dîm y rhaglen. Os oes pryderon na ellir mynd i'r afael â nhw'n ddigonol, gallai arwain at ymchwiliad Addasrwydd i Ymarfer, ond yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd angen symud ymlaen i'r cam hwn.


Lle mae'r achos honedig o ymddygiad amhroffesiynol yn sylweddol, neu lle bu nifer o achosion o ymddygiad amhroffesiynol, bydd y Brifysgol yn mynd ati i gynnal ymchwiliad ffurfiol.

Bydd y Brifysgol yn penodi Swyddog Achos i gasglu’r holl wybodaeth angenrheidiol i sefydlu’r ffeithiau mewn perthynas â phryderon Addasrwydd i Ymarfer. Dylech ddarllen drwy'r wybodaeth a anfonwyd atoch ynghyd â'r Polisi Addasrwydd i Ymarfer fel eich bod yn deall beth yw'r honiad a pham ei fod wedi'i wneud. Efallai y bydd y Swyddog Achos yn gofyn am gael cyfarfod â chi i drafod yr honiad – gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r cyfarfod hwn (a allai fod yn Gynghorydd UM); cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Yn dibynnu ar fanylion eich achos, mae’n bosib y bydd y Brifysgol hefyd yn gosod 'mesurau rhagofalus' (e.e. atal eich mynediad i gyfleusterau TG neu i ran o'r campws). Os ydych yn anghytuno â'r 'mesurau rhagofalus' hyn, mae gennych hyd at 10 diwrnod i herio'r rhain trwy wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad. Gallwn hefyd roi cyngor ar hyn.

Byddwch yn cael y cyfle i ymateb i dystiolaeth, ac i gyflwyno unrhyw amgylchiadau neu ffactorau lliniarol y credwch y dylid eu hystyried mewn perthynas â’r pryder honedig.

Fel arfer daw'r ymchwiliad cyfan i ben o fewn 40 diwrnod i'r achos honedig o ymddygiad amhroffesiynol. Mae’n bosibl y bydd yr ymchwiliad yn dod i’r casgliad nad oes achos i’w ateb, ac os felly bydd yr honiad yn cael ei ollwng. Fel arall, gellir cyfeirio’r achos at Banel Ffurfiol; dylid rhoi gwybod i chi am hyn o fewn saith diwrnod i gwblhau’r ymchwiliad.


Gall y Brifysgol eich gwahardd o elfen uniongyrchol o fodiwl neu leoliad gwaith yn dilyn achos honedig o ymddygiad amhroffesiynol. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal am ddiogelwch ei myfyrwyr, ei staff a'r rhai y gallech fod mewn cysylltiad â nhw ar leoliad. Rhaid i'r Brifysgol a darparydd y lleoliad gwaith fod yn fodlon ei bod yn ddiogel ac yn briodol i chi ddychwelyd. Mae'n bwysig cydymffurfio ag amodau'r ymchwiliad, hyd yn oed os ydych yn anghytuno â nhw - bydd torri'r amodau hyn (e.e. ceisio mynd yn ôl i leoliad) yn cyfrif yn eich erbyn.


Yn yr ymchwiliad, bydd y Swyddog Achos yn ceisio penderfynu beth yn union a ddigwyddodd, ac a fu achos o ymddygiad amhroffesiynol mewn gwirionedd ar sail 'cydbwysedd tebygolrwydd'. Os na all y Swyddog Achos benderfynu ar hyn, bydd y Panel hefyd am ystyried y mater dan sylw. Os canfuwyd eich bod wedi gweithredu’n groes i’r safonau proffesiynol, yna byddant am wybod eich barn ar hynny.

Mae'r Brifysgol yn amgylchedd dysgu, ond bydd y Panel eisiau gwybod eich bod yn deall pam fod eich ymddygiad yn cael ei gymryd o ddifrif a'ch bod wedi ymrwymo i sicrhau na fydd yn digwydd eto.

O ran proses y Panel, bydd y Swyddog Achos yn cyflwyno’r achos, a bydd y Panel yn gofyn cwestiynau iddynt. Nesaf, cewch gyfle i gyflwyno eich achos a rhoi eich datganiad. Bydd gan y Panel gwestiynau i chi hefyd.

Os yw amgylchiadau personol wedi effeithio ar eich astudiaethau / eich gallu i wneud penderfyniadau ar y pryd, dylech gasglu tystiolaeth ategol i'w chyflwyno i'r Panel. Cofiwch fod angen i chi ystyried, fel gweithiwr proffesiynol, ei bod yn bwysig cydnabod sut y gall amgylchiadau personol effeithio ar eich perfformiad.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn gallu rhoi cymorth i chi baratoi datganiad a thrafod cwestiynau y gallech eu codi. Gallwch ofyn am gael dod â ffrind neu aelod o staff yr UM gyda chi, ond ni fyddai'r person hwn fel arfer yn siarad yn y Panel.

Os oes gennych chi reswm dilys sy’n golygu na fyddwch yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad arfaethedig, dylech hysbysu’r Brifysgol fel mater o flaenoriaeth i ofyn am aildrefnu’r Gwrandawiad ar ddyddiad arall. Cofiwch fod y Brifysgol yn cadw'r hawl i fwrw ymlaen ag unrhyw gyfarfod ymchwiliol, yn eich absenoldeb, cyn belled â’ch bod chi wedi cael eich hysbysu am ddyddiad ac amser y gwrandawiad.

Byddwch fel arfer yn cael gwybod am y canlyniad ar lafar ar yr un diwrnod ac yn derbyn y canlyniad yn ysgrifenedig o fewn wythnos.


Gall oedi o ran lleoliadau gwaith neu weithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol ddigwydd o ganlyniad i gyfeirio achos at Weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ailadrodd lleoliad gwaith, ac o’r herwydd gallai hyn arwain at oedi cyn graddio. Os ydych chi’n hawlio Cyllid Myfyrwyr, byddem yn eich annog yn gryf i wirio eich sefyllfa cyllid myfyrwyr gyda'r tîm Cymorth Ariannol. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, dylech wirio goblygiadau ariannol gyda'r Gofrestrfa Ryngwladol, yn ogystal â goblygiadau fisa.


Gallwch ofyn am adolygiad, ond cofiwch y bydd angen i chi fodloni un neu fwy o’r seiliau canlynol:

18.2.1 “afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer, sydd o natur a allai achosi amheuaeth resymol a fyddai’r un penderfyniad wedi’i wneud pe na bai hynny wedi digwydd” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oedd y weithdrefn a ddilynwyd gan y Swyddog Achos a gynhaliodd yr ymchwiliad yn anghywir, a gallai hyn fod wedi arwain at wneud y penderfyniad anghywir.

18.2.2. “bodolaeth tystiolaeth newydd, a bod rhesymau dilys pam na ddarparwyd y dystiolaeth hon yn gynharach yn y broses” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oes tystiolaeth newydd y gallwch ei darparu ar gyfer eich achos. Fodd bynnag, i ofyn am Adolygiad o Ganlyniad ar y 'sail' hon, mae'n rhaid i chi ddangos bod rheswm da pam na allech fod wedi darparu'r dystiolaeth hon yn y lle cyntaf.

18.2.3. 18.2.3 “bod tystiolaeth ar gael i ddangos bod y canlyniad a gyrhaeddwyd yn gynharach yn afresymol. Yn y cyd-destun hwn, golyga afresymol nad oedd y canlyniad yn gasgliad posibl y gallai gwrandawiad neu broses ystyried debyg fod wedi’i gyrraedd.” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os yw penderfyniad y Swyddog Achos yn afresymol, o ystyried ffeithiau eich achos.

I wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Adolygiad o Ganlyniad SC11 (y gallwch ddod o hyd iddi yma) a’i hanfon i’r Swyddfa Academaidd – aocases@uwtsd.ac.uk.

Rhaid derbyn cais am adolygiad o’r canlyniad ar y ffurflen gywir ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl yr hysbysiad o’r canlyniad.

Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o Ganlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o Ganlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad terfynu eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.