Camymddwyn Anacademaidd

 

Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Gamymddwyn Anacademaidd. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.

 

 

Nod y Brifysgol yw darparu amgylchedd dysgu cefnogol, diogel a chynhwysol i bawb. Mae'r Côd Ymddygiad Myfyrwyr yn gosod y safonau ymddygiad a ddisgwylir. Byddem yn eich annog i ymgyfarwyddo â Chôd Ymddygiad Myfyrwyr, oherwydd, os bernir bod eich ymddygiad yn groes i’r disgwyliadau, mae’n bosib y byddwch yn destun y Polisi Camymddwyn Anacademaidd. Mae croeso i chi gysylltu â ni am help i egluro unrhyw bwyntiau rydych yn ansicr yn eu cylch.

Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw ymchwiliadau troseddol sy'n mynd rhagddynt yn eich erbyn cyn gynted â phosibl, oherwydd - hyd yn oed os nad yw'r rhain yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd yn y Brifysgol - mae’n bosib y byddant yn dal i fod yn berthnasol dan y Côd Ymddygiad Myfyrwyr.

 


• Ymddygiad sy'n achosi trallod neu niwed gwirioneddol neu bosibl i eraill neu eiddo.


• Ymddygiad a all atal neu amharu ar weithrediad arferol y Brifysgol.


• Ymddygiad a allai achosi niwed i enw da'r Brifysgol.


• Ymddygiad sy’n groes i Gôd Ymddygiad Myfyrwyr y Brifysgol.


Gallai hyn gynnwys ymddygiad y tu allan i'r Brifysgol, yn ogystal ag ar y campws. Meddyliwch amdanoch eich hun fel cynrychiolydd y Brifysgol ar draws gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys sut rydych chi'n mynegi eich hun ar gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft.

Mae troseddau Camymddwyn Anacademaidd yn cael eu categoreiddio fel naill ai rai bach neu rai mawr yn dibynnu ar ddifrifoldeb y camymddygiad. Ar gyfer achosion bach syml o gamymddygiad, fel arfer defnyddir ymagwedd leol, yn aml dan arweiniad yr Athrofa neu aelod o’r Gwasanaethau Proffesiynol, er enghraifft, uwch aelod staff yn yr adran Llety os yw’n ymwneud â digwyddiad mewn neuaddau preswyl. Fel arfer daw'r broses i ben o fewn 14 diwrnod. Yn ystod y cam hwn, ni fydd y Brifysgol wedi penderfynu beth ddylai'r gosb fod (neu hyd yn oed a ddylai fod cosb o gwbl). Mae'n bwysig cydweithredu â'r ymchwiliad, gan y bydd hyn i'w weld o'ch plaid pan fydd y Brifysgol yn penderfynu sut i symud ymlaen.

Cysylltwch â ni gynted â phosibl am gyngor a chymorth gyda'r cam hwn.

Yn ôl y Polisi Camymddwyn Anacademaidd, bydd Swyddog Achos yn ymdrin â honiadau o gamymddwyn difrifol. Byddwch yn derbyn llythyr gan y Swyddfa Academaidd yn amlinellu'r rheswm dros yr ymchwiliad. Bydd y llythyr hwn yn esbonio'r broses wrth symud ymlaen. Yn achos troseddau mwy sylweddol, pwrpas yr ymchwiliad yw casglu'r holl wybodaeth berthnasol sy'n angenrheidiol i sefydlu ffeithiau sy’n ymwneud â'r hyn sydd wedi digwydd. Fel arfer byddwch yn cael eich gwahodd i gwrdd â'r Swyddog Achos; dyma yw eich cyfle i gyfleu 'ochr chi o'r stori', ac (os dymunwch) i fynegi edifeirwch.

Efallai y bydd y Brifysgol yn gosod 'mesurau rhagofalus' (er enghraifft, efallai y gofynnir i chi beidio â mynychu dosbarthiadau neu symud allan o'ch neuadd breswyl tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo). Mae gan y Brifysgol yr hawl i wneud hyn fel rhan o'u hasesiad risg. Os gosodir 'mesurau rhagofalus', a’ch bod yn teimlo bod y rhain yn annheg, mae gennych chi hyd at 7 diwrnod i’w herio trwy wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad. Gallwch chi gysylltu â ni am gefnogaeth gyda hyn.

Fel arfer cynhelir yr ymchwiliad cyfan o fewn 40 diwrnod. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, os bernir nad yw’r achos yn ‘gymhleth' a bod yr achos yn eich erbyn yn cael ei gadarnhau (h.y. os ystyrir eich bod yn ‘euog'), bydd y Swyddfa Academaidd yn ysgrifennu atoch gyda'ch cosb. Os bernir ei fod yn 'gymhleth', bydd yn mynd i Banel.

Pan fydd honiad yn cael ei wneud, neu bryder yn cael ei godi, ynghylch eich ymddygiad, gall y Swyddog Achos ddewis cyfweld â chi, myfyrwyr eraill, ac unrhyw dystion lle bo hynny'n briodol. Dylech gael eich hysbysu’n llawn am yr honiadau neu’r pryderon amdanoch a chael cyfle i ymateb a darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi’ch achos.

Er mwyn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn codi'r materion hyn i gyd, mae'n syniad da meddwl ymlaen llaw am yr hyn rydych chi am ei ddweud. Gallwch ysgrifennu pwyntiau allweddol a gosod tic ger pob pwynt wrth i chi ei gyflawni, i wneud yn siŵr eich bod wedi rhoi sylw i bopeth.

Meddyliwch pa dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi eich achos. Gallai hyn fod yn ddogfennau fel: llythyrau gan eich meddyg teulu, tystiolaeth o anabledd, e-byst yn gofyn am gymorth.

Mae’r Polisi Camymddwyn Anacademaidd yn cynnwys arwydd o'r cosbau sy'n debygol o gael eu dyfarnu mewn gwahanol amgylchiadau, gan ddibynnu ar y math o drosedd a'i difrifoldeb. Ar gyfer Mân Droseddau efallai y byddwch yn derbyn rhybudd ysgrifenedig ffurfiol, neu efallai bydd gofyn i chi lofnodi contract ymddygiad. Yn achos Troseddau Mwy Difrifol neu Fân Droseddau sy’n digwydd dro ar ôl tro, mae’n bosib y bydd angen atal astudiaethau yn rhannol neu'n llawn am gyfnod penodol o amser, neu oedi cyn graddio. Fel arall, mae’n bosib y cewch eich gwahardd o eiddo'r Brifysgol a/neu o gyfleusterau neu wasanaethau am gyfnod penodol o amser. Dylid egluro wrthych y rhesymau dros y gosb a ddewiswyd a pham na fyddai unrhyw gosb lai yn addas.

Lle bo’n bosibl ac yn ymarferol, byddwch yn cael y cyfle i fynychu unrhyw gyfarfodydd neu wrandawiadau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn bersonol. Fodd bynnag, mae'r gan y Brifysgol hawl i symud ymlaen yn eich absenoldeb, cyn belled â'ch bod wedi cael rhybudd priodol.

O ran proses y Panel, bydd y Swyddog Achos yn cyflwyno’r achos, a bydd y Panel yn gofyn cwestiynau iddynt. Nesaf, cewch gyfle i gyflwyno eich achos a rhoi eich datganiad. Bydd gan y Panel gwestiynau i chi hefyd.

Os oes 'myfyriwr yn adrodd yn ôl', ni fyddwch fel arfer yn yr un cyfarfod o'r Panel â nhw - fel rheol bydd y Panel yn eu cyfweld ar wahân, i wneud yn siŵr bod y ddau ohonoch yn cael cyfle i roi eich safbwynt yn rhydd.

Bydd y Panel fel arfer yn dweud wrthych beth yw eu penderfyniad (os bydd y Panel yn cadarnhau’r achos yn eich erbyn) yn ogystal â’r gosb a argymhellir ar yr un diwrnod. Yna byddwch yn derbyn llythyr gan y Swyddfa Academaidd o fewn wythnos i’r Panel yn cadarnhau’r penderfyniad, ac unrhyw amodau sy’n perthyn iddo.

Gallwch wneud cais i gael rhywun i fynychu’r cyfarfod gyda chi (a allai fod yn Gynghorydd UM); cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Bydd yr hyn y byddwch yn ei gynnwys yn eich datganiad yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol ac a ydych yn cyfaddef neu'n gwadu'r honiadau. Fel canllaw cyffredinol, gall fod yn ddefnyddiol ystyried y pwyntiau canlynol:

 


• Myfyrio. Os yw’n bosib bod eich ymddygiad fod wedi torri’r rheolau a/neu fethu â chyrraedd y safonau gofynnol, mae’n bwysig myfyrio ar hynny. Esboniwch eich dealltwriaeth o pam mae amgylchedd dysgu cefnogol, diogel a chynhwysol yn bwysig a sut yn union y gall eich ymddygiad fod yn destun pryder. Os gallwch chi ddangos eich bod yn deall natur y broblem yn llawn, gallwch ddangos eich bod yn cymryd y mater o ddifrif ac yn gwneud popeth i sicrhau nad yw'n digwydd eto.

• Ymddiheuriad. Os ydych wedi torri rheolau, hyd yn oed yn anfwriadol, mae'n bwysig dangos edifeirwch. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, ond mae ymddiheuro yn dangos yr agwedd gywir wrth symud ymlaen, a gall roi sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto.

• Bwriad. Oeddech chi'n bwriadu torri'r rheolau neu achosi pryder? Os oeddech wedi gweithredu’n fwriadol, mae'n well peidio â thrafod hyn yn eich datganiad. Os nad oedd yr hyn a wnaethoch yn fwriadol, beth ddigwyddodd?

• Cyd-destun. Os oes rhywfaint o gyd-destun i'r hyn a ddigwyddodd a allai fod o gymorth i esbonio'r hyn a wnaethoch chi, dylech ei gynnwys ond byddwch yn ofalus gyda goslef eich llais. Peidiwch â cheisio esgusodi unrhyw gamwedd, ond yn hytrach dywedwch eich bod am egluro beth oedd yn digwydd ar y pryd i roi rhywfaint o gyd-destun i'r honiadau.

• Lliniaru. A oes unrhyw ffactorau lliniarol a allai, fel cyd-destun, helpu i egluro beth ddigwyddodd neu ei wneud yn llai difrifol? Er enghraifft, os oeddech wedi estyn allan am gymorth, neu wedi tynnu sylw at y mater hwn eich hun.

• Amgylchiadau Esgusodol Eglurwch a oedd unrhyw beth yn effeithio arnoch chi a allai fod wedi effeithio ar eich gallu i resymu/meddwl. Mae angen i chi fod yn onest ond yn ofalus gyda sut rydych chi'n dweud yr hyn rydych chi'n ei ddweud yma. Os oedd rhywbeth wedi digwydd a oedd yn amharu ar eich synnwyr cyffredin, gall hynny ynddo’i hun fod yn broblem os na wnaethoch chi ddangos y mewnwelediad priodol ar y pryd.

• Casgliad. Gorffennwch gydag esboniad o'r hyn rydych chi wedi'i wneud/yn mynd i'w wneud i atal hyn rhag digwydd eto a sut rydych chi'n teimlo am barhau â’ch astudiaethau. Gall ailadrodd eich ymddiheuriad, ynghyd ag addewid i ymrwymo i’r Côd Ymddygiad Myfyrwyr wrth symud ymlaen helpu i ddod â'ch datganiad i ben yn y tôn cywir.


Os ydych chi’n anfodlon â chanlyniad y cam ffurfiol, gallwch ofyn am adolygiad, ond cofiwch y bydd angen i chi fodloni un neu fwy o’r amodau canlynol:

23.2.1. "afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn, sydd o natur a allai achosi amheuaeth resymol a fyddai’r un penderfyniad wedi’i wneud pe na bai hynny wedi digwydd” – Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oedd y weithdrefn a ddilynwyd gan y Swyddog Achos a gynhaliodd yr ymchwiliad yn anghywir, a gallai hyn fod wedi arwain at wneud y penderfyniad anghywir.

23.2.2. “bodolaeth tystiolaeth newydd, a bod rhesymau dilys pam na ddarparwyd y dystiolaeth hon yn gynharach yn y broses” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oes tystiolaeth newydd y gallwch ei darparu ar gyfer eich achos. Fodd bynnag, i ofyn am Adolygiad o Ganlyniad ar y 'sail' hon, mae'n rhaid i chi ddangos bod rheswm da pam na allech fod wedi darparu'r dystiolaeth hon yn y lle cyntaf.

23.2.3. “bod tystiolaeth ar gael i ddangos bod y canlyniad a gyrhaeddwyd yn gynharach yn afresymol. Yn y cyd-destun hwn, golyga afresymol nad oedd y canlyniad yn gasgliad posibl y gallai gwrandawiad neu broses ystyried debyg fod wedi’i gyrraedd” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os yw penderfyniad y Swyddog Achos yn afresymol, o ystyried ffeithiau eich achos.

I wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Adolygiad o Ganlyniad SC11 (y gallwch ddod o hyd iddi yma) a’i hanfon i’r Swyddfa Academaidd – aocases@uwtsd.ac.uk.

Rhaid derbyn cais am adolygiad o’r canlyniad ar y ffurflen gywir ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl yr hysbysiad o’r canlyniad.

Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o Ganlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o Ganlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad terfynu eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.