Lles

Gall bod yn y Brifysgol fod yn brofiad gwych, ond gall hefyd beri cryn straen ar adegau. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n gofalu am eich llesiant; o’r corfforol i’r meddyliol, a’r rhywiol.

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi, rydyn ni wedi rhannu ein hadnoddau llesiant fesul adrannau, pob un yn berthnasol i fath penodol o lesiant. Mae yma ddolenni at fudiadau, cyngor ac adnoddau defnyddiol.

Mae'n bwysig eich bod chi'n cofrestru gyda Meddyg Teulu (GP) a deintydd lleol os ydych chi wedi symud i astudio yn y brifysgol. Mae bod â meddyg teulu a deintydd yn agos at eich cartref yn ystod y tymor yn golygu y gallwch gael gafael ar ofal a meddyginiaeth os bydd ei angen arnoch; os na fyddwch chi'n cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd lleol, gallai fod oedi wrth gael triniaeth neu bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth. Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i ddod o hyd i wahanol wasanaeth iechyd y GIG yn eich ardal chi.

Dewch o hyd i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Dewch o hyd i wasanaethau iechyd yn Lloegr

Gall y profiad o fod yn fyfyriwr beri straen; o gwrdd â phobl newydd, i wneud ffrindiau newydd, i reoli terfynau amser a chyllidebau; gall y cyfan deimlo'n llethol, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae cymorth yno ar eich cyfer chi. Mae gwasanaethau ar-lein y gallwch eu cyrchu o unrhyw le, am ddim. Fel myfyriwr PCyDDS, gallwch ddefnyddio'r Togetherall am ddim. 

 

Gwasanaethau Myfyrwyr PCyDDS

Mae'r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr, lle gallwch chi siarad â chwnselwyr i gael yr help sydd ei angen arnoch chi. 

Ewch i Wefan y Gwasanaeth Myfyrwyr

 

Togetherall

Mae gan bob myfyriwr yn PCyDDS fynediad i'r Togetherall; cymuned a gwasanaeth iechyd meddwl sy'n darparu cymorth ar-lein gan gyfoedion a phroffesiynwyr, gyda chwnselwyr hyfforddedig - i gyd yn gwbl ddi-dâl.

Ewch i Togetherall

 

MIND

Cyngor iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr gan weithwyr proffesiynol Mind.

Ewch i MIND

Clinigau Iechyd Rhywiol

Mae Clinigau Iechyd Rhywiol, y cyfeirir atynt weithiau fel Clinigau GUM, yn cynnig ystod o wasanaethau yn ymwneud ag iechyd rhywiol. O brofion a thriniaeth ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol i ddulliau atal cenhedlu a phrofion beichiogrwydd, i brofion HIV a PEP. Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i'ch clinig agosaf a gweld y gwasanaethau y mae'n eu cynnig. 

Clinigau yn Cymru Clinigau yn Lloegr

 

Stonewall a Stonewall Cymru

Mae Stonewall Cymru yn cynnig cefnogaeth a chyngor i'r gymuned LHDT yng Nghymru; Unigolion sy'n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Draws, neu unrhyw un nad ydyn nhw'n hunan-ddiffinio’n llwyr fel Heterorywiol (Syth).

Stonewall CymruStonewall

 

Sefydliad LHDT

Mae’r Sefydliad LHDT yn bodoli i gefnogi anghenion yr ystod amrywiol o bobl sy'n hunan-ddinfinio fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

Sefydliad LHDT

 

Womens Aid

Elusen yn y DU sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i weithwyr rhyw ac unigolion y manteisir arnynt yn annheg yn y diwydiant rhyw.

Womens Aid

 

Beyond The Streets

Elusen yn y DU sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i weithwyr rhyw ac unigolion y manteisir arnynt yn annheg yn y diwydiant rhyw.

Beyond The Streets

Yn ystod eich amser yn y brifysgol, mae’n bosib y byddwch chi'n ffurfio perthynas ag alcohol. I rai pobl, gall fod yn ddiod neu ddau yn y tŷ, neu i eraill gall fod yn noson fawr allan. Mae'n bwysig gwybod beth yw eich terfynau; byddwch yn ymwybodol o'r effeithiau a nodwch pryd y gallech chi fod yn yfed gormod neu'n rhy aml.

 

Beth yw’r terfynau?

Mae'r GIG yn cynghori pobl i beidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos. Mae 1 uned o

  • Mae hanner peint o seidr, cwrw neu lager cyffredin yn 1 uned (ABV 3.6%). 
  • Mae un joch o wirodydd yn 1 uned (25ml, ABV 40%).
  • Mae gwydraid bach o win yn 1.5 uned (125ml, ABV 12%).

Bydd llawer o ffactorau'n penderfynu sut mae alcohol yn effeithio arnoch chi, fel pwysau eich corff a’ch metaboledd; byddwch yn ofalus a pheidiwch â theimlo dan bwysau i gadw i fyny â phobl eraill.

 

Pa Mor Aml?

Yn ôl canllawiau'r GIG, y peth gorau i’w wneud yw lledaenu eich yfed trwy gydol yr wythnos a chael ychydig ddyddiau lle nad ydych chi’n yfed o gwbl. Gall yfed cryn lawer ar un sesiwn, sef gor-yfed, achosi niwed sylweddol i'ch iechyd, eich llesiant a gall achosi llu o broblemau cymdeithasol. 

 

Y Peryglon Tymor Byr

Dyma rai o beryglon tymor byr camddefnyddio alcohol anafiadau sydd angen triniaeth ysbyty, bod yn ddioddefwr trais, cael rhyw nad yw’n ddiogel, colli eiddo personol, gwenwyn alcohol.

 

Y Peryglon Hirdymor

Dyma rai o beryglon hirdymor camddefnyddio alcohol cancer, clefyd y galon, strôc, clefyd yr afu/iau a pancreatitis 

 

I rai myfyrwyr, gall eu bywyd ar fin-nos fod yn seiliedig ar yfed, a byddant yn yfed mwy na'r hyn a argymhellir. Yr hyn sy’n allweddol yw yfed yn gyfrifol; anelu at gael amser da heb beryglu'ch iechyd na'ch diogelwch, a gofalu amdanoch chi'ch hun a'ch ffrindiau. Rydyn ni wedi llunio rhestr o adnoddau ar-lein lle gallwch chi ddysgu mwy am alcohol, ei effeithiau a sut i gael cymorth.  

 

DAN

Llinell gymorth ddwyieithog, ddi-dâl, yn cynnig pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth neu gymorth ynghylch cyffuriau neu alcohol.

dan247.org.uk

 

Frank

Gallwch ganfod bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau a'r gyfraith. Siaradwch â Frank am ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol.

talktofrank.com

 

NHS

Gwybodaeth am fod yn gaeth i gyffuriau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

nhs.uk

Nid yw Undeb Myfyrwyr y Drindod Saint David yn cydoddef defnyddio cyffuriau, ond mae am sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud dewisiadau gwybodus, ac yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael i'w helpu i gadw'n ddiogel. Cofiwch, y ffordd orau i osgoi niwed neu gael eich cosbi yw peidio â chymryd cyffuriau o gwbl.

Mae yna lawer o gyffuriau sy'n mynd wrth enwau gwahanol, sy’n cael gwahanol effeithiau. Mae gan Talk To Frank restr helaeth o gyffuriau, gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch; eu henwau stryd, sut olwg sydd arnyn nhw, yr effeithiau maen nhw'n eu cael, a beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. 

 

Talk To Frank

Gallwch ganfod bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau a'r gyfraith. Ewch i Talk To Frank am ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol.

talktofrank.com

 

DAN

Llinell gymorth ddwyieithog, ddi-dâl, yn cynnig pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth neu gymorth ynghylch cyffuriau neu alcohol.

dan247.org.uk

Pan fydd gamblo'n mynd allan o reolaeth, gall achosi problemau ariannol, effeithio'n negyddol ar eich llesiant, astudiaethau a’ch perthnasoedd â phobl eraill. Mae help ar gael; os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rheoli eu gamblo, mae'r elusennau isod yn rhoi cyngor a chymorth defnyddiol. 

 

Gamble Aware

Cyngor a chymorth i’r rheiny sydd â phroblem gamblo

begambleaware.org

 

Gambling Therapy

Mae Gambling Therapy yn wasanaeth byd-eang sy’n cynnig cyngor ymarferol am ddim, ynghyd â chymorth emosiynol i unrhyw un mae gamblo yn effeithio arnynt.

Gambling Therapy