Gyrfaoedd

Mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gyrfaoedd a chyfleoedd i chi fanteisio arnynt gydol eich amser yn y Brifysgol.

 

Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol

Yn ogystal â chanolbwyntio ar astudiaethau, mae angen i fyfyrwyr wneud pethau eraill yn ystod eu hamser yn y brifysgol i ddatblygu eu CV a’u cyflogadwyedd. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn bodoli er mwyn helpu myfyrwyr i gadw trefn ar hyn i gyd, o’r diwrnod cyntaf. Does dim angen drafft o CV arnoch chi, syniad am yrfa mewn golwg na bod yn eich blwyddyn olaf i ddefnyddio'r gwasanaeth. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, beth am wneud apwyntiad a chael y cymorth sydd ei angen arnoch?

Ewch i dudalen gwe'r Gwasanaeth Gyrfaoedd

 

Gwirfoddoli

Rhowch hwb i’ch CV a chyfle i sefyll allan o'r dorf. Bydd gwirfoddoli'n rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi yn barod at chwilio am swydd, gan gynnwys cyfathrebu, gweithio mewn tîm, rheoli amser, trefnu a gwneud penderfyniadau. Rydym yn gweithio gyda'r Brifysgol a chymunedau lleol ar draws De a Gorllewin Cymru i ddarparu myfyrwyr â chyfleoedd gwirfoddoli; rydym hefyd yn helpu myfyrwyr i ddechrau eu prosiectau eu hunain. Cysylltwch â'ch swyddfa UM leol i drafod cyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi.

Cysylltwch â ni

 

GO Wales: Cyflawni Trwy Brofiad Gwaith

Rhaglen gyflogadwyedd yw Cyflawni drwy Brofiad Gwaith Go Wales, sydd wedi'i hanelu at fyfyrwyr llawn-amser ifanc sy'n cwblhau cwrs addysg uwch. Gallant helpu drwy wneud y gwaith trefnu, darparu cyllid i'ch helpu i gael mynediad at y cynllun, yn ogystal â hyfforddi a mentora parhaus i sicrhau eich bod chi'n cael cymaint ag y gallwch o'r profiad. Yr egwyddor yw y byddwch mewn gwell sefyllfa ar ôl graddio i gael swydd ar gyfer graddedigion. Os ydych chi am ganfod mwy, ewch i’w gwefan.

Ewch i Go Wales