Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS – Ein Hymrwymiad i Chi

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym:

Y gwerthoedd craidd sy'n diffinio ein gwasanaeth Cynghori yw ei fod yn Annibynnol, yn Gyfrinachol ac Am Ddim.  

•    Am Ddim: Rydym yn cynnig cyngor i holl fyfyrwyr PCyDDS am ddim.       
•    Annibynnol:  Rydym yn sefydliad annibynnol, ar wahân i'r Brifysgol.  Mae'r cyngor a'r opsiynau a gynigiwn wrth drafod eich achos yn seiliedig ar eich buddiannau chi, nid rhai'r Brifysgol.    
•    Cyfrinachol:  Rydym yn ymdrin ag ymholiadau yn gwbl gyfrinachol, yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yma.  Nid oes gan neb y tu allan i dîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr fynediad i'ch ymholiad.  Efallai y bydd eich Cynghorydd - mewn achosion eithriadol - yn dymuno ceisio cefnogaeth gan Bennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth neu'r Prif Weithredwr. Dim ond os byddwch yn rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny y byddwn yn trafod eich achos gyda'r Brifysgol neu drydydd parti (ac eithrio mewn rhai sefyllfaoedd eithriadol, lle gallai fod rheidrwydd arnom i 'dorri cyfrinachedd', fel yr amlinellir isod).   

Ein nod yw cynnig safon uchel o gyngor proffesiynol.  I'r perwyl hwn, rydym yn cynnig:

• Gwasanaeth prydlon:  Byddwn yn ceisio ymateb i'ch ymholiad a'ch e-byst dilynol o fewn 3 diwrnod gwaith.  Yn ogystal ag e-bost, gallwn drefnu apwyntiadau dros Microsoft Teams neu ffonio i drafod eich achos, er y gallai fod rhaid i chi aros yn hwy am apwyntiadau yn ystod cyfnodau prysur. 
• Gwasanaeth cefnogol:  Byddwn yn eich trin ag urddas a pharch ac yn trafod eich achos gyda chi mewn modd anfeirniadol.  Byddwn yn onest â chi am yr opsiynau sydd ar gael i chi, gan gynnwys ble gallai’r opsiynau hyn fod yn wahanol i’ch dewisiadau neu ddymuniadau personol.   
• Gwasanaeth cyfartal, amrywiol a chynhwysol:  Yn unol â gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr ac â’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddwn yn cynnig y safon gwasanaeth a amlinellir yn ein Cyngor: Datganiad Gwasanaeth Cyfartal, Amrywiol a Chynhwysol, y gallwch ei ddarllen yma.  

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi: 

•    Cadw mewn cysylltiad: Os oes diweddariadau i'ch achos, rhowch wybod i ni – gorau po gyntaf y byddwch yn rhoi gwybod i ni, fel y gallwn ni baratoi ar gyfer y 'cam nesaf'.   
•    Bod yn onest:  Chi sydd i benderfynu faint o fanylion rydych chi'n dewis eu rhannu gyda ni.  Fodd bynnag, allwn ni ond eich cynghori ar sail yr hyn rydych chi’n ddweud wrthym – os oes manylion yn perthyn i'ch achos nad ydych wedi’u datgelu, gallai hyn effeithio ar faint o gyngor y gallwn ei gynnig.   
•    Parch at ein staff: rydym yn darparu gwasanaeth tosturiol, ac felly gofynnwn am yr un lefel o ymddygiad tuag at ein staff.  Gall unrhyw ymddygiad camdriniol arwain at dynnu'r gwasanaeth yn ôl.  
•    Cadw at apwyntiadau: Gwyddom fod 'pethau'n digwydd' ac efallai y byddwch yn methu'ch apwyntiad.  Fodd bynnag, os na allwch fod yn bresennol ar gyfer eich apwyntiad, neu os yw’n debygol y byddwch yn hwyr, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.  Fel hyn, gallwn wneud ein gorau i aildrefnu, neu gynnig y slot amser i fyfyriwr arall a allai fod yn aros.   

Mewn sefyllfaoedd prin iawn, rydym yn cadw’r hawl i wneud y canlynol: 

•   Gofyn i chi gadarnhau pwy ydych – os, er enghraifft, nad ydym wedi gallu cadarnhau eich bod yn fyfyriwr PCyDDS ar sail y rhif myfyriwr neu fanylion cyswllt a ddarparwyd.  
•   Newid eich Cynghorydd – er enghraifft, os oes 'gwrthdaro buddiannau' rhwng eich achos chi ac achos myfyriwr arall y mae'r Cynghorydd yn cynnig cymorth iddo.  Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn dilyn ein Cyngor: Polisi Gwrthdaro Buddiannau, y gallwch ei ddarllen yma.    
• Torri cyfrinachedd – er enghraifft, os oes gennym bryderon difrifol iawn am eich diogelwch chi (neu rywun arall), efallai y bydd angen i ni gysylltu â'r Brifysgol neu wasanaeth proffesiynol.  
• Tynnu gwasanaeth yn ôl – er enghraifft, os byddwch yn methu apwyntiadau dro ar ôl tro heb roi gwybod i ni, yn ymddwyn yn sarhaus tuag at eich Cynghorydd, neu'n peidio â chymryd camau cadarnhaol tuag at ddatrys eich achos.   

Ein nod yw eich galluogi i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi.  

Dyma’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig fel arfer:

•    Gwybodaeth am bolisïau, gweithdrefnau a rheoliadau’r Brifysgol.  Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar wefan Undeb y Myfyrwyr yma.  
•    Cyngor ar ddeilliannau posibl gwahanol ddewisiadau.
•    Arweiniad ar sut y gallech fynd at y Brifysgol i wella'ch siawns o ganlyniad llwyddiannus, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthym am eich achos.
•    Awgrymiadau ar sut y gallech wella eich siawns o ganlyniad llwyddiannus.  Er enghraifft, efallai y byddwn yn awgrymu sut i wella eich datganiad wrth lenwi un o ffurflenni’r Brifysgol; pa dystiolaeth y gallech fod am ei chynnwys; neu sut y gallech strwythuro eich dadl mewn panel Prifysgol.  
•    Eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill, os na allwn ddarparu gwasanaeth proffesiynol i chi ar gyfer eich achos.  

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y byddwn hefyd yn cynnig:

•    Mynychu panel neu gyfarfod y Brifysgol gyda chi i ddarparu cefnogaeth.  Fodd bynnag, ni fyddem fel arfer yn siarad yn y cyfarfod hwn.
•    Cysylltu â staff y Brifysgol ar eich rhan.  Fodd bynnag, byddem fel arfer yn disgwyl i chi geisio cysylltu yn gyntaf.  

Ni fyddem fel arfer yn:

•    Gweithredu neu gychwyn proses yn ymwneud â’r Brifysgol ar eich rhan.  
•    Siarad ar eich rhan mewn cyfarfod.
•    Llenwi ffurflen neu ysgrifennu llythyr ffurfiol ar eich rhan.
•    Cynghori ar faterion sy'n ymwneud ag Is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr – er enghraifft, pe baech yn dymuno gwneud Cwyn yn erbyn aelod o dîm swyddogion neu staff Undeb y Myfyrwyr.  

---

Ein nod yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi.  Os ydych yn credu nad yw’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn gan y gwasanaeth Cynghori yn bodloni’r safonau yn y Cytundeb hwn, y cam cyntaf yw cael sgwrs â’ch Cynghorydd i weld a allwch ddatrys y mater hwn. 

Os ydych yn dal i deimlo'n anfodlon, mae gennych yr hawl i ddilyn y Weithdrefn Gwyno, fel yr amlinellir yng Ngweithdrefnau Cwynion a Disgyblu Undeb y Myfyrwyr (Is-ddeddf Adran 12).   

Bydd y Gweithdrefnau hyn yn ymchwilio ac yn ystyried a yw'r Cynghorydd wedi bodloni'r safonau yn y Cytundeb hwn, a'r safonau a ddisgwylir gan staff Undeb y Myfyrwyr yn gyffredinol.  Ni fyddant yn ystyried cwynion yn erbyn y gwasanaeth Cynghori os mai'r unig reswm am eich cwyn yw eich bod yn anfodlon â chanlyniad eich achos neu benderfyniad y Brifysgol ar eich achos.