Rhestr Wirio ar gyfer Chwilio am Dŷ
Rydyn ni wedi creu teclyn ar-lein, hawdd ei ddefnyddio i'w gwneud hi'n haws i chi gofnodi gwybodaeth bwysig pan fyddwch chi’n mynd i weld tai a fflatiau.
Dyma’r Rhestr Wirio
Lleoliad yr Eiddo
- Ydy tu allan yr eiddo mewn cyflwr da?
- Ydych chi’n gwybod pwy sy’n cynnal a chadw’r ardd?
- Oes mynediad diogel i’r eiddo?
- Gyda’r nos, oes digon o olau ar y stryd o gwmpas yr eiddo?
- Ydych chi’n gwybod lle mae’r siopau agosaf atoch chi?
- Ydy’r eiddo mewn lleoliad da ar gyfer y brifysgol?
Y tu mewn i’r eiddo
- Ydy cyfleusterau’r gegin yn addas i chi i gyd?
- Ydy’r cyfleusterau golchi a’r tai bach yn addas?
- Oes cawod?
- Ydych chi’n hapus â’r dodrefn a ddarperir?
- Pa ddodrefn mae’r landlord yn eu cyflenwi?
- Oes digon o socedi trydan yno?
- Oes digon o olau, gwres ac awyru?
- Ydy’r ardaloedd a rennir yn addas at eich anghenion Oes lolfa neu rywle i bawb fwyta/eistedd?
- Oes cysylltiad â theleffon?
- Ydych chi’n hapus â’r gwaith atgyweirio/addurno ar y cyfan?
- Os oes angen mwy o atgyweirio, a fydd y landlord yn gwarantu y caiff hyn ei wneud cyn i chi symud i mewn?
- Ydy’r tŷ’n lân ar y cyfan?
- Oes sugnydd llwch sy’n gweithio yno?
- A fydd modd gwresogi’r tŷ’n hawdd ac yn ddiwastraff?
- Oes lleithder yn y tŷ?
- Oes unrhyw leithder yn y tŷ?
- All y landlord ddangos tystysgrif diogelwch nwy ar gyfer yr offer yn yr eiddo?
- Boeler/cwcer/tân ayyb?
- Oes gan y landlord gofnod o archwiliad diogelwch tân? Ydy’r dodrefn yn ddiogel rhag tân?
- Ydy’r drysau’n ddrysau tân?
- Oes diffoddwyr tân ar bob llawr?
- Oes larymau tân neu larymau mwg addas?
- Oes blanced tân yn y gegin?
- Ydy’r eiddo’n ddiogel?
- Oes drysau allanol cadarn?
- Oes clo gan bob ystafell?
- Oes cloeon ar ffenestri’r llawr gwaelod?
Rheoli’r eiddo
- Ydych chi’n hapus â’r drefn atgyweirio?
- Ydy hi’n hawdd cysylltu â’r landlord os bydd argyfwng?
- Ydych chi’n glir ynglŷn â’r rhent? Beth mae’n ei gynnwys? Pryd mae angen ei dalu?
- Ydy eich blaendal dan ddiogelwch y Gwasanaeth Diogelu Blae- ndaliadau?
- Ydych chi wedi cael cytundeb i’w wirio? (Bydd angen o leiaf 48 awr i’w wirio)
- Os oes gan yr eiddo fwy na 3 ystafell wely, tŷ amlfeddiannaeth yw e – ydy hyn wedi cael ei gofrestru?