Symud Allan

P'un a ydych wedi dod i ddiwedd y contract neu'n gadael yn gynnar, mae yna rai pethau y dylech chi eu gwneud cyn i chi symud allan.

  • Darllennwch y mesuryddion - Trydan a Nwy. Rhowch wybod i’r darparwyr eich bod am gau’r cyfrifon a thalu’r bil terfynol.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich rhent i gyd wedi ei dalu. (gall hyn gynnwys amser nad ydych chi yno, ond mae’n ddyletswydd arnoch i gyflawni eich cytundeb).
  • Gwnewch yn siŵr fod yr eiddo’n LÂN! Mae hyn bob amser yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl, felly dylech ganiatáu o leiaf dau ddiwrnod.

 

Gwarchod eich blaendal

Mae’n ddyletswydd arnoch i ddychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd pan y gosodwyd y lle i chi, a chaniatáu ar gyfer traul teg. Mae’n syniad da sicrhau pan fyddwch chi’n arwyddo eich cytundeb, eich bod yn:

  • Tynnu lluniau o’r ystafelloedd ac unrhyw ddifrod neu draul, cyn i chi symud i mewn.
  • Cadw rhestr fanwl o’r cynnwys (dodrefn a gosodiadau).
  • Gwirio dan ba amgylchiadau y gallai eich landlord neu asiant ddal eich blaendal yn ôl.

 

Beth ddylech chi ei wneud os nad yw eich landlord neu asiant wedi gwarchod eich blaendal?

Gallwch wneud cais i’ch llys sirol lleol; gall y llys wedyn orchymyn eich landlord neu asiant i naill ai ad-dalu eich blaendal i chi, neu ei osod mewn cynllun gwarchod blaendaliadau.

www.gov.uk/tenancy-deposit-protection

 

Blaendal

  • Dylech gael eich blaendal yn ôl o fewn 10 diwrnod ar ôl diwedd y denantiaeth, os ydych chi a’ch landlord yn cytuno ar faint ddylid ei dalu’n ôl i chi. 
  • Mae sut mae hyn yn gweithio os oes anghytno’n dibynnu ar y math o gynllun mae eich landlord yn ei ddefnyddio (gwnewch yn sicr bod gan y landlord a’r cynllun eich manylion cywir, e.e. cyfeiriad ar gyfer anfon pethau ymlaen, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn).
  • Mae’n rhesymol i’ch landlord ddal arian yn ôl o’ch blaendal mewn achos lle bu difrod i’r eiddo neu’r dodrefn, neu eitemau ar goll o’r rhestr y cytunwyd arni ar ddechrau’r denantiaeth. 
  • Ni ddylai’r landlord gymryd arian allan o’r blaendal i dalu am draul teg (h.y. difrod sydd wedi digwydd yn raddol yn sgil defnydd cyffredin o ddydd i ddydd.