Biliau

Mae biliau cyfleustodau yn rhan na ellir ei osgoi o rentu llety oddi ar y safle. Darllenwch ein canllawiau a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n chwilio am y bargeinion gorau. 

Mae’n bosib y bydd eich landlord yn cynnwys cost rhywfaint o'ch biliau, neu’r cwbl, yn eich rhent; gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hyn cyn sefydlu unrhyw gyfrifon ychwanegol.

 

Wedi'i gynnwys ar y dudalen hon:

Biliau 

Cymorth arall

 

 

Treth y Cyngor 

Os mai dim ond myfyrwyr llawn-amser sy’n byw mewn eiddo, yna mae’n gymwys ar gyfer cael ei eithrio’n llawn rhag talu treth y cyngor.

I gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser, rhaid i chi fod ar gwrs sy'n para o leiaf blwyddyn, sy'n gofyn am dros 21 awr o astudio bob wythnos.

Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr rhan-amser dalu, ond gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad ar sail ffactorau eraill. (link)

Os ydych chi’n byw mewn tŷ a rennir gyda myfyrwyr llawn-amser a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, byddwch yn cael bil treth y cyngor trwy'r drws bob mis. Fodd bynnag, dim ond y tenantiaid hynny nad ydynt yn fyfyrwyr fydd yn gorfod ei dalu - mae myfyrwyr llawn-amser yn dal i fod wedi'u heithrio.

Mynd yn syth i astudiaeth ôl-raddedig? Sylwch y bydd yn rhaid i chi dalu treth yn ystod gwyliau'r haf rhwng blynyddoedd academaidd. 

Weithiau gallwch dderbyn bil treth y cyngor trwy gamgymeriad. Mewn achos o’r fath, dylech chi wneud cais am eithriad. Gallwch gyrchu Tystysgrif Eithrio Treth y Cyngor trwy myTSD.

 

Ynni

Os na chaiff ei gynnwys yn eich rhent, bydd gofyn i chi dalu biliau nwy a thrydan.

Os ydych chi'n talu'ch cyflenwr ynni yn uniongyrchol, mae gennych chi'r hawl i newid darparwyr.

Gallwch ddod o hyd i'r bargeinion rhatach sydd ar gael trwy ddefnyddio safleoedd cymharu, fel Uswitch, Confused.com neu Money Supermarket

 

*Gair i gall * Ar ôl i chi ddefnyddio'r safle cymharu, dylech gwtogi eich rhestr o ddewisiadau i ddau neu dri opsiwn, wedyn gwiriwch eu gwefannau uniongyrchol; efallai bod ganddyn nhw fargeinion neu ostyngiadau nad ydyn nhw i'w gweld ar y safle cymharu. 

 

Dŵr 

Bydd biliau dŵr yn cael eu cynnwys yn eich rhent neu fe'u sefydlir yn eich enw chi. 

Os mai'ch cyfrifoldeb chi yw talu'r bil dŵr, mae angen i chi ddarganfod pa ddarparydd dŵr sy'n cyflenwi'ch ardal. Os ydych chi'n byw yng Nghymru mae'r holl ddŵr yn cael ei ddarparu gan Dŵr Cymru.

 Bydd angen i chi gysylltu â nhw a sefydlu'ch hun fel cwsmer newydd. Gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn.

 

Water bills will be included in your rent or will be set up in your name. 

If it's your responsibility to pay the water bill, you need to find out which water provider supplies your area. If you are living in Wales all water is provided by Welsh Water.

 You will need to contact them and set yourself up as a new customer. You can do this online or over the phone.

 

Band-eang a ffôn 

Bydd angen i chi dalu am y llinell ffôn a band-eang.

Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio llinell-wifren i wneud galwadau ffôn mwyach, felly mae’n bosib mai dim ond ar gyfer eich cysylltiad rhyngrwyd y bydd ei angen arnoch chi.

Ystyriwch faint o ddata y bydd ei angen arnoch, gan ddibynnu ar nifer y preswylwyr a'ch gweithgaredd. Efallai y byddwch am chwilio am drefniant diderfyn er tawelwch meddwl. 

Defnyddiwch wefannau cymharu fel Uswitch, Confused.com neu Money Supermarket i gymharu’r cynigion sydd ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried costau sefydlu, hyd eich contract a'r cysylltedd yn eich ardal cyn ymrwymo i unrhyw beth. 

 

Trwydded Deledu 

Bydd angen trwydded deledu arnoch chi os ydych chi'n gwylio neu'n recordio rhaglenni ar deledu, cyfrifiadur neu ddyfais arall wrth iddyn nhw gael eu darlledu. Hefyd os ydych chi'n gwylio neu'n lawrlwytho rhaglenni'r BBC ar iPlayer - yn fyw, trwy wasanaeth dal-i-fyny neu ar alw.

 Mae cost flynyddol y drwydded deledu gryn lawer is na'r ddirwy y byddwch yn ei derbyn os cewch eich dal yn defnyddio'r gwasanaethau heb y drwydded. 

Os ydych yn ansicr a oes angen trwydded arnoch, gallwch wirio yma.

 

Rhannu biliau gyda'ch cydletywyr 

Unwaith y bydd eich holl filiau wedi'u sefydlu, bydd angen i chi weithio allan sut rydych chi'n mynd i dalu. 

Bydd angen i chi gael sgwrs gyda'ch cydletywyr am y biliau. Pwy fydd yng ngofal y trefniadau? Pryd fydd y lletywyr yn talu? Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn hwyr neu'n methu â thalu eu cyfran? 

Mae’n bosib y byddwch am ystyried gwasanaeth rhannu biliau neu becyn bargen i fyfyrwyr. Mae'r cwmnïau hyn yn pecynnu biliau cyfleustodau i mewn i un taliad misol, ac yna’n rhannu'r cyfanswm yn gyfartal i chi. 

 

Cadw ar ben biliau

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu fforddio'ch biliau sylfaenol bob mis. 

Rydym yn awgrymu eich bod yn sefydlu bancio ar-lein, gan ei bod yn llawer haws cadw golwg ar bryd mae'ch biliau'n mynd allan er mwyn rhoi tawelwch meddwl i chi. 

Er mwyn sicrhau nad ydych yn gorwario, efallai y byddwch am greu cyfrif ar wahân ar gyfer eich taliadau misol.

Os ydych chi mewn trafferthion ariannol, mae bwrsariaethau ar gael trwy'r brifysgol i'ch helpu chi. Cysylltwch â'ch Undeb Myfyrwyr os oes angen rhywun arnoch i weithio trwy hyn gyda chi; rydyn ni yma i helpu. Peidiwch â cheisio datrys sefyllfa anodd ar eich pen eich hun!